Croeso i dudalen newyddion Ceredigion Actif. Dyma welwch y newyddion diweddaraf o fyd chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn ac o amgylch Sir Ceredigion.

Gallwch hefyd tanysgrifio i ein cylchlythyr (ar waelod y tudalen) i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.

Sut gall ymarfer corff newid popeth - Stori wir gan rywun sydd wedi llwyddo!!

Hoffwn ddatgan mor ddiolchgar ydw i am y cymorth a gefais wrth gymryd rhan yng nghynllun Ceredigion Actif.

Ar ôl i fy nheulu ddweud y drefn wrthyf, es i ar ymweliad pwysig iawn at y meddyg, a chefais gynnig atgyfeiriad i gynllun Ceredigion Actif. Roeddwn i wedi bod â pheswch arnaf am rai misoedd, ac wedi bod at y meddyg ryw hanner dwsin o weithiau, wedi cael profion gwaed a sgan pelydr-X o fy mrest, ond doedd dim yn tycio. Cefais amrywiaeth o wahanol foddion, ac fe helpodd rhai ohonynt, ond gan nad oedd dim yn cael gwared ar y peswch, awgrymwyd sawl gwaith y byddai colli pwysau o fudd imi.

Penderfynodd fy nheulu ddweud y drefn ar ôl iddynt fy ngweld yn llewygu unwaith neu ddwy am fy mod wedi pesychu cymaint. Wrth weld yr ofn ar eu hwynebau (poeni am yr yswiriant, mae’n rhaid!) a sylweddoli am y tro cyntaf eu bod yn pryderu amdanaf, cytunais i fynd i weld y meddyg. Mynnodd y mab ddod gyda fi i’r apwyntiad, a dywedodd yn blwmp ac yn blaen wrth y meddyg sut oedd y teulu’n teimlo, a sut oedden nhw’n pryderu nid am y pesychu, ond am fy mhwysau a’r trafferthion y gallai hynny eu hachosi (rwy’n amau’i fod yn poeni y byddai’r arch yn rhy drwm i’w chario yn fy angladd).

Dyma pryd sylweddolais mod i wedi gwthio’r peth i gefn fy meddwl yn rhy hir. O’r tu allan, roedd yn hawdd i bobl feddwl mod i’n heini, yn arfer bod yn hyfforddwr gweithgareddau awyr agored, wedi chwarae rygbi i safon go lew, wedi nofio dros y sir, doeddwn i ddim yn bwyta’n wael, ac os byddwn yn dymuno colli pwysau, gallwn fynd yn ôl fel yr oeddwn heb lawer o drafferth. Ond nid felly oedd hi mewn gwirionedd: roeddwn i’n cael poenau yn fy nghefn, roedd fy nghoesau’n brifo, byddwn i’n disgyn i gysgu bob tro y byddwn i’n eistedd i lawr – fe ddisgynnais i gysgu ar fy nhraed ambell waith – roeddwn i’n pesychu’n drwm ac yn methu a chysgu, heb sôn am y trafferthion eraill rwy’n siŵr y gallwch eu dychmygu. Roedd yn rhaid imi gynllunio fy mywyd i gyd o gwmpas y ffaith nad oeddwn i’n gallu symud yn rhwydd iawn, sy’n dda i ddim os ydych chi’n rheolwr yr arfordir a chefn gwlad.

Roeddwn i’n gwybod beth oedd angen imi ei wneud, ond doedd dim syniad gen i sut i fynd o’i chwmpas hi. Ar ôl diwrnod yn llawn cyfarfodydd a threulio oriau’n gyrru, roeddwn i fel arfer wedi blino gormod i wneud unrhyw ymarfer corff, a phe byddai rhywun yn cynnig teisen neu frechdan imi, allwn i byth â gwrthod – rwy’n gweithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle mae pawb wrth eu boddau â theisennau. Fe wnes i roi cynnig ar golli pwysau, ond wnaeth hynny ddim para’n rhy hir, ac roedd gen i esgus yn barod bob amser i gael ambell i fisged neu frechdan.

Dechreuodd pethau newid pan gynigiodd Dr Helen Herbert fy nghyfeirio at Ceredigion Actif. Pan gwrddais â Gareth i ddechrau, roeddwn i’n disgwyl clywed fod perygl imi gael strôc, trawiad ar y galon a phwy a ŵyr beth arall. Ond chwarae teg iddo, fe gyflwynodd y cynllun yn dda a llwyddo i ddwyn perswâd arnaf – heb unwaith wneud imi deimlo fel methiant nac yngan y gair ‘tewdra’. Yn y sesiwn gyntaf roedd pawb arall yn dipyn hŷn na fi, ac roeddwn i’n rhyw amau fy mod wedi dod i’r dosbarth anghywir. Ond ar ôl gwneud ychydig o ymarferion ysgafn i gynhesu roeddwn i’n pwffian fel trên, a sylweddolais fy mod wedi dod i’r lle iawn wedi’r cyfan. Diolch i gefnogaeth ac anogaeth Gareth yn y gampfa, a dysgu sut i gael y gorau ar Carys wrth wneud aerobeg yn y dŵr, rwy’n teimlo’n well o lawer erbyn hyn. Rwy’n colli pwysau, yn teimlo’n gryfach ac yn fwy heini, ac mae digonedd o egni gen i. Gallaf gadw rheolaeth ar beth rwy’n ei fwyta, mae lefelau siwgr yn fy ngwaed wedi sefydlogi, ac rwy’n medru dweud ‘na’ o gael cynnig teisen, hyd yn oed un siocled.

Wn i ddim pa nodau mae’n rhaid i’r cynllun eu cyflawni, ond gan ystyried cymaint yn well rwy’n teimlo bellach, ac wrth weld cynnydd y rhai eraill sy’n cymryd rhan, yn fy marn i mae hwn yn un o’r cynlluniau gorau mae Llywodraeth Cymru erioed wedi’u hariannu. Yn bersonol, roeddwn i ar gyfeiliorn a dim ond gwaethygu fyddwn i wedi’i wneud heb gymryd rhan yn y cynllun. Byddai hynny wedi costio’n ddrud i’r GIG, a hwyrach y byddai fy nheulu wedi colli fy hiwmor a fy mhersonoliaeth ddeniadol – felly mae’n werth pob ceiniog yn fy marn i. Os gallaf gynnig unrhyw gymorth wrth hyrwyddo’r cynllun, mae croeso ichi gysylltu â mi.

Rwy’n gwybod fod gen i dipyn o ffordd i fynd a bod yn rhaid imi golli llawer mwy o bwysau, ond gan fod Gareth a Carys mor broffesiynol a chlên wrth weithio ar fy ffitrwydd, rwy’n ffyddiog mod i’n mynd i’r cyfeiriad iawn, ac y byddaf yn cyflawni fy nhargedau.

Diolch o galon

Mr Paul Boland

Cleient y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, Canol Ceredigion