Croeso i dudalen newyddion Ceredigion Actif. Dyma welwch y newyddion diweddaraf o fyd chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn ac o amgylch Sir Ceredigion.

Gallwch hefyd tanysgrifio i ein cylchlythyr (ar waelod y tudalen) i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.

Cynllun Atgyfeirio Cleifion - Tregaron

Mae grŵp newydd wedi cael ei sefydlu yn Nhregaron.

Mae Tregaron Curlews wedi dechrau gan pobl lleol sydd wedi cwblhau 16 wythnos gyda'r Cynllun Atgyfeirio Cleifion yn y pentref. Roedd y grŵp eisiau parhau i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol rheolaidd a gyda grant gan gist gymunedol mae'r grŵp yn rhoi tro i wahanol weithgareddau, saethu, cerdded pêl fasged, badminton, bowls a cherdded Nordic

Mae'r grŵp yn anelu i ddarparu gweithgareddau corfforol mewn awyrgylch saff a chymdeithasol, lle gall unrhyw un sydd wedi cwblhau'r cynllun parhau i fod yn actif mewn grŵp.

Dyma oedd sesiwn cyntaf cerdded Nordic i'r grŵp, gyda 6 sesiwn ychwanegol i fynd. Darparu'r gweithgaredd hwn gan 'Nordic Walking Cardigan' mewn partneriaeth efo 'Age Cymru'.

Os hoffwch chi fod yn rhan o grŵp fel Caron Curlews bydd angen i chi cwblhau'r cynllun Atgyfeirio Cleifion am 16 wythnos. Plîs ymwelwch ag y tudalen Cynllun Atgyfeirio Cleifion am fwy o fanylion am y cynllun.

Tregaron Curlews - Nordic Walking
Tregaron Curlews - Nordic Walking
Tregaron Curlews - Nordic Walking