Mae Cyngor Chwaraeon Ceredigion yn anelu at gynrychioli buddiannau clybiau chwaraeon yng Ngheredigion. Mae'r sefydliad ymbarél ar gyfer glybiau chwaraeon cysylltiedig, cynghreiriau a sefydliadau cymunedol cysylltiedig.
Mae cysylltiad clybiau yn rhad ac am ddim ar gyfer 2023 wrth i ni ddechrau'r adferiad ar ôl Covid.
Mae Cyngor Chwaraeon Ceredigion, mewn cysylltiad â Ceredigion Actif, yn helpu drwy gydlynu nifer o wasanaethau i glybiau:
Mae aelodaeth yn cynnwys:
- Mynediad a diweddariadau ar gyllid a grantiau sydd ar gael i glybiau chwaraeon
- Mynediad a gwybodaeth cyngor a chwaraeon arbenigol
- Hyfforddiant ar gyfer swyddogion clybiau, hyfforddwyr ac arweinwyr
- Cyrsiau Diogelu Plant a Chymorth Cyntaf
- Cyflwyniad Gwobrau Chwaraeon Ceredigion blynyddol
- Gwobrau Rhyngwladol ar gyfer pobl chwaraeon Ceredigion sydd wedi cynrychioli eu gwlad
- Grantiau ar gyfer Blant Talentog sy'n dangos addewid
- Cynllun Cerdyn Aur ar gyfer defnyddio canolfannau hamdden heb gost
- Cefnogaeth nawdd ar gyfer digwyddiadau a rhaglenni datblygus
- Cysylltiadau gwell ysgol / clwb
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cyngor Chwaraeon Ceredigion neu sut y gallwn gefnogi eich clwb, cysylltwch â Llyr Jones ar 07977186302 neu llyr.jones@ceredigion.gov.uk.