Skip to main content

Matthew Roebuck yw'r swyddog sy'n gyfrifol am Gymunedau Actif yng Ngheredigion. Mae'n cefnogi Clybiau Chwaraeon wrth iddynt weithio tuag at strwythur clwb cryf ac yn medru cynorthwyo clybiau hefyd wrth iddynt chwilio am gyllid drwy Gronfa Cymru Actif a Chronfa Crowdfunder Chwaraeon Cymru.

Matthew Roebuck
Swyddog Gweithgaredd Corfforol a Chwarae yn y Gymuned
07583101902
matthew.roebuck@ceredigion.gov.uk

Er mwyn i chwaraeon ddod yn brofiad gydol oes, mae'n hanfodol bod cyfleoedd chwaraeon o safon ar gael i bawb. Yn ogystal â chwarae rhan bwysig mewn datblygu ffyrdd iach o fyw, mae chwaraeon yn gallu hyrwyddo lles economaidd a chymdeithasol cymunedau. Mae clybiau chwaraeon cymunedol yn chwarae rhan hanfodol wrth gyfrannu at fudd-daliadau o'r fath ac o'r herwydd yn ganolog yn natblygiad chwaraeon.

Rôl Matthew yw cefnogi a chynyddu nifer, ystod ac ansawdd y clybiau chwaraeon yn y gymuned.

Gall Matthew hefyd gefnogi clybiau drwy:

  • datblygu strwythurau clybiau cynaliadwy
  • cynyddu aelodaeth o glybiau chwaraeon
  • datblygu adrannau iau clybiau cymunedol
  • annog clybiau i weithio i safonau achredu'r corff llywodraethol
  • trefnu cyrsiau hyfforddi penodol a generig ee. Cyrsiau Sports Coach UK
  • darparu rôl ymgynghorol ynghylch cyllid
  • cynghori clybiau ar eu taith achredu insport
  • helpu gyda'r mynediad at chwaraeon cynhwysol
  • codi proffil chwaraeon yng Ngheredigion

Cyllid

Mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau o £300 i £50,000 ar gyfer prosiectau yng Nghymru sy'n bwriadu gwneud o leiaf un o'r canlynol:

  • lleihau anghydraddoldeb
  • creu cynaliadwyedd hirdymor
  • cyflwyno ffyrdd newydd neu wahanol o weithredu

Er enghraifft, gellid defnyddio cyllid i:

  • uwchsgilio gwirfoddolwyr
  • prynu offer sy'n caniatáu i fwy o bobl gymryd rhan mewn chwaraeon
  • datblygu ffyrdd newydd neu wahanol o ddarparu gweithgarwch corfforol
  • defnyddio technoleg i ymgysylltu â mwy o bobl
  • cyrraedd pobl sy'n cael eu tangynrychioli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar hyn o bryd

Crowdfunder

Mae Crowdfunder yn ffordd o godi arian at achosion a syniadau da, tra hefyd yn helpu eich clwb neu brosiect i gysylltu â'ch cymuned.

Ar wefan Crowdfunder, mae pobl yn addo arian i gefnogi'r achos neu'r syniad. Yn gyfnewid am hyn, gall y person sy'n rhoi arian hefyd gael gwobr, a all fod yn gynnyrch, budd-dal, neu wasanaeth.

Mae Chwaraeon Cymru wedi partneru gyda Crowdfunder i gefnogi clybiau cymunedol a gweithgareddau i godi arian ar gyfer gwella cyfleusterau.

Mae'r cynllun ar gyfer clybiau nid-er-elw a grwpiau cymunedol sy'n ceisio codi arian ar gyfer gwelliannau 'oddi ar y cae'. Er enghraifft:

  • Ystafelloedd newid
  • Adnewyddu tŷ clwb
  • Gwella cyfleusterau cegin er mwyn cael mwy o incwm
  • Raciau a storio beiciau
  • Lifftiau a rampiau ar gyfer gwell mynediad i pobl gyda anableddau
  • Paneli solar
  • Cynhyrchwyr
  • Boeleri
  • Ffens newydd

Mae'r enghreifftiau uchod i gyd yn welliannau 'oddi ar y cae'.

Bydd cynllun peilot Crowdfunder yn parhau tan Ebrill 2023.

Fe wnaeth clybiau a mudiadau sefydlu tudalen ar wefan Crowdfunder, sy'n gofyn i bobl addo arian i'r achos neu syniad. Byddai'r syniadau hyn o fudd i'r gymuned leol trwy wella cyfleusterau.

Mae'r crowdfunder yn rhoi cymorth a chyngor, gan gynnwys hyfforddwr i'ch arwain drwy'r broses lle mae hynny'n briodol.

Asesir eich prosiect Crowdfunder gan Chwaraeon Cymru, pwy all benderfynu pa lefel o arian cyfatebol y byddwch yn gymwys i'w dderbyn yn seiliedig ar y wybodaeth rydych wedi'i darparu.

Os yw tudalen Crowdfunder wedi cyrraedd meini prawf penodol, bydd Chwaraeon Cymru yn cyfateb i gronfa rhwng 30% a 50% o'r cyfanswm, hyd at uchafswm o £15,000 o arian cyfatebol.

Mae'r ganran y bydd Chwaraeon Cymru yn cyfateb i gronfa (30% - 50%) yn cael ei phenderfynu ar sail potensial prosiect i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.

Addysg i Hyfforddwyr

Hoffech chi gael profiad o hyfforddi neu hyd yn oed gael cymwysterau uwch mewn hyfforddi?

Os felly mae nifer o gyrsiau ar gael ichi!

Mae Ceredigion Actif yn gweithio gyda gwahanol gyrff llywodraethol Chwaraeon a Sports Coach UK drwy drefnu a rhedeg cyrsiau addysg i goetsys chwaraeon. Mae amrywiaeth anferthol o gyrsiau i dewis rhyngddynt, p'un a ydych yn hyfforddwr eisoes neu'n dechrau o'r dechrau, mae cyrsiau cyflwyno i'w cael, yn ogystal â chyrsiau datblygiad proffesiynol.

Os hoffwch chi siarad efo aelod o’r tîm ynghyn a chymwysterau ar gyfer hyfforddwyr plîs cysylltwch â ceredigionactif@ceredigion.gov.uk.

Gwirfoddoli

Mae chwaraeon yn dibynnu'n drwm ar wirfoddolwyr i barhau i weithredu. Mae angen gwirfoddolwyr ar bob clwb ar rhyw adeg neu'i gilydd, nid rhai sy'n cymryd rhan yn unig. Drwy wirfoddoli mewn chwaraeon rydych chi'n rhoi rhywbeth yn ôl yn enwedig mewn rhai achosion os ydych wedi bod yn cymryd rhan yn y gorffennol.

  • Mae'n Hwyl
  • Dysgu Sgiliau Newydd
  • Gwneud Ffrindiau Newydd
  • Creu Hunan-hyder
  • Gwella eich CV

Drwy wirfoddoli rydych yn gwella eich sgiliau a'ch phrofiad yn awtomatig, yn aml bydd y profiad hwn yn edrych yn dda i gyflogwyr posib. Mae mwy a mwy o bobl yn cael eu cyflogi oherwydd y profiad maent wedi ei ennill wrth wirfoddoli. Wrth gwrs, mae chwaraeon yn hobi poblogaidd iawn i lawer a gall gweithio mewn amgylchedd chwaraeon greu'r sgiliau y bydd arnoch eu hangen.

Os oes gennych ddiddordeb i chwilio allan mwy am wirfoddoli yn eich ardal chi plîs cysylltwch â ni drwy ceredigionactif@ceredigion.gov.uk.

Dwi’n mwynhau darparu'r sesiynau a chael HWYL! Dwi’n holi’r plant am ei adborth yn gyson, felly mae’n braf clywed bod y plant yn cael HWYL hefyd. Dwi hefyd yn mwynhau trefnu'r sesiynau fel bod y plant yn cael y mwyaf allan o’r amser
Dwi'n edrych ymlaen At wirfoddoli pob wythnos a dysgu sgiliau newydd. Dwi’n gweld hyn yn wobr fawr wrth weld wynebau plant yn goleuo i fyny pam maen nhw’n cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn bwysicach yn cael hwyl
Heb wirfoddolwyr bydd fy nghlwb i ddim yn parhau, mae'r amser pun a 1 neu 2 awr y wythnos yn cael effaith mawr ar fywydau pobl, Diolch yn Fawr