Skip to main content

Prosiectau Ceredigion Actif

Dyma flas ar beth ni di bod lan i...

Rhaglenni Actif

Mae gan Ceredigion Actif amrywiaeth o raglenni yn addas i bobl o bob oedran a gallu- rydyn ni eisiau gweld Pawb yn Actif, Pob Dydd!


Ffit yn 5

Mae Fit yn 5 yn gofyn i ysgolion i wneud 5 munud o weithgarwch corfforol bob dydd yn yr ysgol - yn ogystal ag amseroedd gwersi Addysg Gorfforol a chwarae.

Mae ymarfer corff dyddiol yn cael effaith gadarnhaol ar ganolbwyntio a chyflawniad, yn gwella lles seicolegol, yn cynyddu llif y gwaed i'r ymennydd ac yn lleihau'r risg o ddatblygu salwch. Bydd Ffit yn 5 yn ceisio gwella ffitrwydd corfforol a lles yn ogystal â gwella sgiliau corfforol.

Gwnewch yn siŵr bod eich ysgol chi yn rhan o’r cynlyn drwy gofrestru (bydd y ffurflen yn agor mewn tab newydd).