Skip to main content

Mentr ar y cyd yw Rhaglen Gymunedol Chwaraeon Anabledd Cymru rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru a'r 22 awdurdod lleol ar draws Cymru.

Stefano Antoniazzi
Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru
07855090282
stefano.antoniazzi@ceredigion.gov.uk

Nod y rhaglen yw datblygu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol o ansawdd uchel i bobl anabl ledled Cymru.

Amcanion y cynllun yw i:

  • Creu clybiau newydd a rhoi cyngor a chefnogaeth broffesiynol i wella'r clybiau sydd ohoni
  • Cynyddu nifer y bobl anabl sy'n cymryd rhan weithredol mewn clybiau chwaraeon a sesiynau gweithgarwch corfforol
  • Gwella ansawdd a nifer y coetsys a'r gwirfoddolwyr o fewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol anabledd drwy addysg i goetsys a systemau eraill
  • Creu cyfleoedd newydd a datblygu ymhellach y rhai sydd eisoes i'w cael i bobl anabl gystadlu mewn chwaraeon ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
  • Cydweithio'n agos â chynllun Perfformiad Cenedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru, gan sicrhau bod y sawl a chanddynt botensial yn cael y cyfle i hyfforddi a, lle bo'n briodol, i gyrraedd eu llawn botensial yn eu chwaraeon

Gweler www.chwaraeonanableddcymru.com am fwy o manylion.

insport

Mae’r rhaglen insport Club yn rhan o brosiect ehangach Insport, sy’n cefnogi’r sectorau ymarfer corff, chwaraeon a hamdden i gynnig darpariaeth sy’n cynnwys pobl anabl.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn gwybod fod y rhan helaeth o oedolion yn cael cyfleoedd gwych i gymryd rhan mewn chwaraeon gyda chlybiau, ac yn ymwybodol nad yw pobl anabl o reidrwydd yn fodlon ar gymryd rhan mewn chwaraeon i bobl anabl neu ymuno â chlybiau a sesiynau ar gyfer anableddau penodol.

Diben insport Club, felly, yw cefnogi clybiau wrth iddynt ddatblygu eu darpariaeth er mwyn cynnwys pobl anabl, a sicrhau fod ganddynt strwythur sy’n eu galluogi i gynnig y cyfleoedd gorau i’r gymuned gyfan, cynyddu nifer eu haelodau a’r rhai sy’n cymryd rhan, galluogi mwy o bobl o’r gymuned i wirfoddoli mewn swyddi llywodraethu, a dal i ddarparu chwaraeon gwych ymhob cwr o Gymru.