Skip to main content

Mae'r rhaglen 'Atgyfeiriad Ymarfer Corff' wedi'i chynllunio i gynorthwyo unigolion, a glustnodwyd gan eu Meddyg Cyffredinol, i gyfranogi o fuddion ymarfer corff pleserus.

Ar gyfer pobl dros 16 oed nad ydyn nhw'n ymarfer yn aml ac sy'n dioddef â phroblemau iechyd mae'r cynllun. Ei ddiben yw rhoi cyfleoedd i ymarfer mewn modd difyr, buddiol a hwylus.

A chithau'n un o'r unigolion hynny, fe gewch raglen 16 wythnos o weithgarwch wedi'i theilwra'n benodol i'ch anghenion a byddwch o dan arweiniad y tîm uchel ei gymwysterau sydd gan Gyngor Sir Ceredigion i ymdrin ag Ymyriad Iechyd.

Paul Jones
Gydlynydd Ymyriadau Iechyd
07812087968
paul.jones@ceredigion.gov.uk
National Exercise Referral Scheme logo

Mae 9 llwybr NERS a 2 fenter Ymyrraeth Iechyd ychwanegol. Dyma nhw:

  1. Generig
  2. Atal Cwympiadau
  3. Rehab Cardiaidd
  4. Rehab Strôc
  5. Rehab yr Ysgyfaint
  6. Iechyd Meddwl
  7. Rheoli Pwysau
  8. Canser
  9. Gofal Cefn

Mentrau ychwanegol:

  1. Cyn diabetes
  2. Eiddilwch

Cerdded er Budd Lles Gorllewin Cymru

Menter sydd ar waith ar draws Bwrdd Iechyd Hywel Dda yw prosiect Cerdded er Lles Gorllewin Cymru. Mae’n anelu at gael pobl i fod yn fwy egnïol ac i fynd allan i’r awyr agored gyda grwpiau cerdded lleol, cyfeillgar. Mae’r prosiect yn gweithio ochr yn ochr â phractisau meddygon teulu a chanolfannau lleol eraill i sefydlu a goruchwylio grwpiau cerdded.

Mae’r teithiau cerdded yn rhai byr, cymdeithasol ac wedi’u trefnu ar gyflymder sy’n addas i unigolion; maent yn canolbwyntio ar gael pobl i fynd allan i’r awyr agored mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.

Dawn Forster yw’r cydlynydd yng Ngheredigion a bydd yn sefydlu grwpiau cerdded a fydd yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr hyfforddedig ar draws y sir.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Dawn ar dawn.forster@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 07866985753.

Logo cerdded er budd lles gorllewin cymru
Grŵp cerdded gorllewin cymru

Ffit am Byth:

Mae dosbarthiadau ymarfer corff i oedolion hŷn sy'n annog trefn ymarfer corff syml a chyson ar gael ym mhob cyfleuster. Mae cylchffordd, dosbarthiadau campfeydd, cerdded chwaraeon a theithiau cerdded lles ar gael i'r cyfranogwyr roi cynnig arnyn nhw.

Cyfeillion Ymarfer Corff:

Nod y prosiect hwn yw cefnogi oedolion ag anableddau dysgu trwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol. Bydd y prosiect yn sicrhau bod y gweithgareddau newydd yn cael eu cynnwys mewn prosiectau cynaliadwy o fewn cymunedau pobl eu hunain. Amcanion y prosiect yw:

  • galluogi oedolion ag anableddau i gael mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon wythnosol
  • grymuso pobl ifanc i gael llais yn nyluniad y cyfleoedd chwaraeon maen nhw'n cymryd rhan ynddyn nhw
  • helpu pobl i ddangos mwy o ddealltwriaeth a pharch at bobl sydd â galluoedd gwahanol drwy ymgyrchoedd eiriolaeth a phrosiectau chwaraeon cynhwysol
  • darparu llwybr clir i bobl ifanc ddilyn cyfleoedd ym myd chwaraeon ar ôl iddynt adael yr ysgol, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn egnïol yn gorfforol yn y dyfodol
  • helpu oedolion ag anableddau a'u teuluoedd i gael eu cynnwys yn gymdeithasol, nid yn unig ar y cae chwarae ond hefyd o fewn y gymuned ehangach

Manteision i'r corff

  • Bydd y galon a'r ysgyfaint yn gryfach ac yn fwy effeithlon
  • Bydd y cyhyrau'n gryfach
  • Bydd y cymalau'n gryfach
  • Mae modd lleddfu clefyd yr esgyrn brau
  • Gallech chi golli braster a phwysau diangen
  • Efallai y byddwch chi'n gallu ymlacio a chysgu'n haws
  • Gweithredu'n well yn y byd
  • Teimlo'n fwy effro ac egnïol
  • Sefyll ac eistedd yn dda
  • Helpu i gadw pwysedd y gwaed ar lefel ddiogel
  • Helpu i osgoi clefyd y siwgr
  • Helpu i osgoi ceulo yn y gwaed
  • Helpu i barhau'n annibynnol yn hytrach na bod yn ddibynnol

Manteision i'r meddwl

Dyma rai sylwadau enghreifftiol:

  • "Rwy'n llai pryderus bellach."
  • "Mae rhagor o hyder a hunan-barch gyda fi."
  • "Mae gweithgareddau corfforol wedi fy helpu i roi'r gorau i ysmygu."
  • "Fe ges i dipyn o amser rhydd trwy'r sesiynau ymarfer."
  • "Mae fy ngwraig yn dweud fy mod yn llawer mwy hapusach."
  • "Rwyf i wedi ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb am fy iechyd."

Manteision cymdeithasol

Dyma rai sylwadau enghreifftiol:

  • "Fe ges i gyfle i gwrdd â phobl gyda'r un pryderon a fi."
  • "Rheswm da am adael y tŷ ac ymddiddori mewn rhywbeth newydd."
  • "Cyfle i hel ffrindiau a mwynhau sgwrsio gyda nhw."
  • "Rwy'n teimlo'n fwy heini a galla' i chwarae'n hirach gyda'r wyrion bellach."
  1. Ewch at eich Meddyg. Os byddwch yn gymwys, bydd eich Ymarferydd Iechyd neu'ch Nyrs Practis yn llenwi 'Ffurflen Atgyfeiriad Meddygol ar gyfer Ymarfer Corff a Chydsyniad'.
  2. Bydd aelod o Dîm Ymyriad Iechyd Cyngor Sir Ceredigion yn cysylltu â chi wedyn i wneud apwyntiad am eich ymgynghoriad cychwynnol. 
  3. Caiff rhaglen ei dyfeisio wedyn i weddu i'ch anghenion personol.
  4. Dros yr 16 wythnos, gall eich rhaglen bersonol gynnwys gweithgareddau grŵp neu unigol megis defnyddio'r Ystafelloedd Iechyd, nofio, aerobeg, cerdded a llawer o rai eraill (nid yw gweithgareddau ar sail un i un).

Cysylltwch a Paul.Jones@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 07812087968.

Cyflwynir ein rhaglenni dros Geredigion gyfan. Mae ein timau'n gweithio mewn 3 Hubs: North, Mid & South.