Skip to main content

Mae tîm Gweithgarwch Corfforol Gydol Oes a Chwarae yn cyflwyno rhaglenni cynhwysol i bobl ifanc yng Ngheredigion. Mae mentrau ar gyfer plant oed cyn ysgol mewn meithrinfeydd a chanolfannau teulu, ym mhob cyfnod allweddol mewn ysgolion a chlybiau a rhaglenni ar ôl ysgol mewn partneriaeth â chanolfannau hamdden a chlybiau cymunedol. Mae chwarae yn ychwanegiad diweddar i'r fenter yr ydym yn ei datblygu.

Y nod yw cael pobl ifanc yng Ngheredigion i fod yn egnïol, datblygu sgiliau symud sylfaenol allweddol yn gynnar ac annog agwedd gadarnhaol gydol oes at iechyd a lles.

Llyr Jones
Cydlynydd Gweithgarwch Corfforol Gydol Oes a Chwarae
07977186302
llyr.jones@ceredigion.gov.uk

Rhaglenni:

Arweinyddiaeth

Er mwyn annog pobl ifanc i ddatblygu medrau allweddol a darparu cyfleoedd corfforol, mae'r tim PIE yn cydlynu rhaglen Llysgenhadon Ifanc ar draws pob ysgol yng Ngheredigion. Mae hyn wedi dechrau cael ei gyflwyno i glybiau chwaraeon cymunedol. Mae Llysgenhadon Ifanc yn sefydlu ac yn darparu cyfleoedd chwaraeon, gemau a chyfleoedd chwarae anffurfiol i bobl ifanc eraill yng Ngheredigion.

Mae'r rhaglen Llysgenhadon Ifanc yn gynllun blaengar ar gyfer oedran a phrofiad lle mae plant mewn Ysgolion Cynradd yn cael eu galw'n Llysgenhadon Efydd, ac mae Llysgenhadon Arian ac Aur yn ein hysgolion uwchradd. Mae gennym hefyd bobl ifanc sy'n cynrychioli Ceredigion ar Lefel Genedlaethol – sef Llysgenhadon Ifanc Platinwm. Mae'r rhaglen yn agored ac yn gwbl gynhwysol gyda Llysgenhadon ag anableddau yn cael eu cynrychioli ar lefel gynradd ac uwchradd. Ceir hefyd raglen arweinyddiaeth benodol o'r enw 'Play Unified' ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu. Caiff y rhaglen hon ei chydgysylltu drwy unedau penodol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Llysgennad Ifanc

Mae llysgennad ifanc yn helpu i:

  • Annog ffyrdd o fyw’n iach.
  • Hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol o sbortsmonaeth.
  • Annog cyfranogiad mewn Addysg Gorfforol, chwaraeon ysgol a chymunedol.
  • Adolygu ac awgrymu gwelliannau i addysg gorfforol a chwaraeon yn eu hysgolion a'u cymunedau.
  • Tynnu sylw at ddigwyddiadau cenedlaethol i gynyddu gwybodaeth am chwaraeon ac athletwyr.
  • Creu cysylltiad rhwng myfyrwyr â’u hathrawon, swyddogion 5x60 a chlybiau cymunedol / hyfforddwyr.

Os hoffwch chi mwy o fanylion am Lysgennad Ifanc, plîs cysylltwch â’r swyddog Pobl Ifanc Egnïol yn eich ardal.

Teuluoedd Actif

Er mwyn rhoi cyfle i rieni a gofalwyr sydd â phlant bach ddatblygu sgiliau symud sylfaenol, mae tîm PIE wedi gweithio gyda Theuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg i roi offer allweddol fel peli, smotiau, cylchoedd hwla a bagiau ffa i helpu i gefnogi teuluoedd. Mae llawer o fideos ar gael ar Sianel YouTube Ceredigion Actif i roi syniadau i rieni a gofalwyr ynglŷn â gwahanol sgiliau.

Mae Meithrinfeydd Addysg a sefydliadau Mudiad Meithrin wedi elwa ar fag adnoddau wedi'i stocio'n dda sy'n cynnwys offer allweddol gan gynnwys beiciau balans. Mae hyn yn rhoi cyfle i blant fod yn egnïol bob dydd.

Ffit yn 5

Dechreuodd y rhaglen hon pan wnaeth Cyfnod Sylfaen Ysgol Llwyn yr Eos dechrau gael eu plant i fod yn egnïol am fwrlwm byr bob dydd. Mabwysiadodd Ceredigion Actif y dull hwn a'i ddatblygu fel dewis amgen i'r fenter genedlaethol, Y Filltir Ddyddiol. Mae'r rhaglen hon yn briodol i bobl o bob oed ac mae bellach yn rhan annatod o'n cynnig 'Gydol Oes'. Mae'r tîm PIE yn annog 5 gweithgaredd gwahanol i gael eu cynnal yn ystod pob sesiwn, gyda phob gweithgaredd yn para munud. Mae llawer o sesiynau ar gael ar Sianel YouTube Ceredigion Actif.

Cyfryngau Cymdeithasol

Mae rhannu gwybodaeth wedi dod yn hollbwysig i gynnal prosiectau cymunedol llwyddiannus ac nid yw hyn yn wahanol yng Ngheredigion lle mae gennym gyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram. Defnyddir y rhain ar gyfer diweddariadau dyddiol, newyddion am ddigwyddiadau newydd, darllediadau byw a rhannu straeon da yn gyffredinol. Mae tudalen YouTube Ceredigion Actif hefyd yn storio bron i 300 o fideos. Edrychwch ar ein 'Rhestr Chwarae' i weld beth sydd ar gael ar Sianel YouTube Ceredigion Actif.

Chwarae yng Ngheredigion

Chwarae yw un o'r ffyrdd mae plant yn dysgu amdanyn nhw eu hunain, y bobl o'u cwmpas eu hamgylchedd a'r gymuned maen nhw'n byw ynddi.

Mae chwarae yn hanfodol ar gyfer:

  • Cynyddu’n corfforol, emosiynol ac ysbrydol
  • Datblygiad deallusol ac addysgol
  • Sgiliau cymdeithasol ac ymddygiadol. Bydd plant yn chwarae unrhyw le ar unrhyw adeg o ystyried y cyfle

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion a'i bartneriaid gyfrifoldeb i greu'r amodau cywir i blant gael mynediad at gyfleoedd o ansawdd da ar gyfer chwarae.

Os ydych chi'n rhan o grŵp neu bwyllgor sy'n gofalu am barc neu faes chwarae yng Ngheredigion ac yn chwilio am gyllid a chefnogaeth i wneud gwelliannau, agorwch y lyfryn Cymorth a Chyllid ar gyfer Meysydd Chwarae a fydd yn rhoi cymorth ac arweiniad i chi.

Asesiad digonolrwydd chwarae Ceredigion

Mae chwarae’n un o hawliau sylfaenol plentyn, mae o’n ganolog i’w fwynhad o fywyd ac mae ei effaith yn llesol. Mae yna lawer o dystiolaeth yn dangos bod chwarae’n rhan hanfodol o ddatblygiad gwybyddol, corfforol, cymdeithasol a meddyliol plentyn.

Mae hefyd dealltwriaeth gynyddol o faint mae chwarae yn cyfrannu, nid yn unig at ansawdd bywyd y plentyn ei hun, ond hefyd at les ei deulu a’r gymuned o’i gwmpas.

Mae adran 11, ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn osod dyletswydd ar Yr Awdurdodau Lleol i asesu cyfleoedd chware i blant yn eu hardaloedd pob 3 flwyddyn. Mae disgwyliad wedyn i greu cynllun gweithredu i wellha’r meysydd le mae’r asesiad wedi dod o hyd i ddiffygion.

Mae ymgynghori gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yn hanfodol er mwyn canfod eu meddyliad am gyfleoedd chwarae a hamdden yng Ngheredigion ac mae hyn yn rhan bwysig o’r broses asesu.

Gellir gweld Asesiad Digonolrwydd Chwarae Ceredigion ar gyfer 2022 ar tudalen Digonolrwydd Chwarae Ceredigion y cyngor.